|
| ||||||||||||||
Amdanom ni
|
Prentisiaethau
|
Swyddi Gwag
|
Lleoliad
|
Cyflogwyr
|
Y Gymraeg yn ACO
|
||||||||||
Prentisiaethau |
|||||||||||||||
Mae gan ACO swyddi gwag i lenwi i bretisiaid yn Abertawe yn awr. Cysylltwch â ni ar admin@aco-training.co.uk i drefnu cyfweliad. Beth yw Prentisiaethau? Cyfle i ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol tra'n cael eich cyflogi mewn swydd. Yn nodweddiadol gyda ACO, byddech yn mynd i weithio am 4 diwrnod yr wythnos ac yn mynychu'r ganolfan hyfforddiant ar 1 diwrnod yr wythnos i weithio ar y cymhwyster a ddewiswyd. Cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu. Pa lwybrau prentisiaeth sy'n cael eu cynnig yn ACO? Busnes a Gweinyddiaeth, Cyfrifeg, Gwasanaeth Cwsmeriaid a Defnyddiwr TG. Pa raglenni prentisiaeth sydd ar gael yn ACO? Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2), Prentisiaethau (Lefel 3), Prentisiaethau Uwch (Lefel 4). Hefyd o bryd i'w gilydd rydym yn cynnig Hyfforddeiaethau (Lefel 1). Beth yw manteision Prentisiaeth? Cael swydd - mae 97% o'r holl prentisiaid sy'n cwblhau eu hyfforddiant yn cael eu cyflogi ac yn cael cynnig swydd lawn amser. Ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Datblygu a gwella eich sgiliau. Cael profiad gwaith ymarferol a pherthnasol er mwyn gwella eich gyrfa. Dim costau - mae Llywodraeth Cymru yn ariannu prentisiaethau yng Nghymru ar hyn o bryd. Gwella eich cylch o ffrindiau. Pwy all wneud cais? Unrhyw un dros 16 oed. Rhai sy'n chwilio i gael profiad gwaith a chymwysterau. Y rhai sy'n gadael ysgol a choleg sy'n chwilio am hyfforddiant yn y gwaith. Rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl seibiant gyrfa neu ddiweithdra. Rhai sy'n wynebu colli eu swyddi. Y rhai sydd am ennill cymwysterau a sgiliau yn eu swydd bresennol. Mae rhai cyfyngiadau ar oedran a swydd ar gyfer llwybrau penodol, mae'r rhain yn amrywio, gofynnwch i aelod o staff am fwy o wybodaeth.
| |||||||||||||||
|